Otto Bauer

Gwleidydd ac athronydd Marcsaidd o Awstria oedd Otto Bauer (5 Medi 18814 Gorffennaf 1938) a fu'n brif ddamcaniaethwr Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Awstria (SPÖ). Gwasanaethodd yn Weinidog Tramor Awstria yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig cefnog. Bauer oedd un o sefydlwyr y mudiad addysg sosialaidd Die Zukunft ("Y Dyfodol"), a chyfrannodd at sawl cyfnodolyn adain-chwith. Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y blaid seneddol ym 1904. Amlinellai ei syniadaeth wleidyddol yn y gyfrol ''Die Nationalitätenfrage und die Sozialdemokratie'' (1907), sydd yn trafod problemau cenhedloedd Canolbarth Ewrop yn nhermau brwydr y dosbarthiadau. Fe'i ystyrir yn un o brif feddylwyr y mudiad Awstro-Farcsiaeth.

Ymunodd â'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei ddal yn garcharor rhyfel gan luoedd Rwsia. Dychwelodd i Awstria ym 1917 a chymerodd awenau ymblaid adain-chwith yr SPÖ. Fe'i penodwyd yn Weinidog Tramor Awstria ar 21 Tachwedd 1918, yn llywodraeth y Canghellor Karl Renner. Ar 2 Mawrth 1919, arwyddodd Bauer cudd-gytundeb i uno Awstria â'r Almaen, ond gwrthodwyd y cynllun iredentaidd hynny gan y Cynghreiriaid. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth ar 26 Gorffennaf 1919, ond parhaodd yn ffigur blaenllaw yn ei blaid. Gwasanaethodd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria o 1929 i 1934. Yn sgil methiant y gwrthryfel sosialaidd yn Fienna ym 1934, aeth Bauer yn alltud yn Tsiecoslofacia. Symudodd yn ddiweddarach i Ffrainc, a bu farw ym Mharis yn 56 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 27 ar gyfer chwilio 'Bauer, Otto', amser ymholiad: 0.01e Refine Results1
  1. 1
  2. 2
    Archief TACB
    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1921
  3. 3
    Fonds Perrone
    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1923
  4. 4

    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1919
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
    Op titelpagina: aus dem unveröffentlichten Nachlass ; Archief Nic Bal [bibliotheek Alfred Weiner]
    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1939
  9. 9

    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1923
  10. 10

    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1931
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

    Yn ôl Bauer, Otto
    Date 1907
  16. 16
  17. 17
  18. 18
    Herdruk van de uitgave Prag 1934
    Yn ôl Bauer, Otto, Kreisky, Bruno
    Date 1974
  19. 19
  20. 20