Tony Blair
Gwleidydd o Loegr yw Anthony Charles Lynton "Tony" Blair (ganwyd 6 Mai 1953). Roedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o Etholiad Cyffredinol 1997 hyd 27 Mehefin 2007. Roedd yn cynrychioli Sedgefield yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.Ers iddo adael swydd y Prif Weinidog mae Blair wedi'i benodi fel Cennad Arbennig y Pedwarawd ar y Dwyrain Canol. Darparwyd gan Wikipedia