Edward Carpenter

Bardd sosialaidd, athronydd ac anthropolegydd cynabyddedig o Loegr oedd Edward Carpenter (29 Awst 184428 Mehefin 1929). Mae'n fwyaf nodedig am ei lyfr ''Civilisation, Its Cause and Cure'' (1889).

Cafodd Edward Carpenter ddylanwad mawr ar ewythr a thad y bardd o Gymro, Waldo Williams, ac ar Waldo ei hun. Roedd Carpenter yn un o brif sefydlwyr y Blaid Lafur Annibynnol. Roedd yn gyfaill i Rabindranath Tagore a Walt Whitman. Cyfatherbai gyda Annie Besant, Isadora Duncan, Havelock Ellis, Roger Fry, Mahatma Gandhi, Keir Hardie, William Morris, Edward R. Pease a John Ruskin.

Fel athronydd caiff ei gofio'n bennaf am ei gyfrol ''Civilisation, Its Cause and Cure'' (1889) ble mae'n awgrymu mai math o afiechyd yw gwareiddiad. Llyfr arall dylanwadol ar Waldo Williams oedd ''The Healing of Nations and the Hidden Sources of their Strife'' (1915).

Credai'n gryf mewn "rhyddid rhyw" a dylanwadodd ar D. H. Lawrence, Sri Aurobindo, ac ysbrydolodd nofel E. M. Forster ''Maurice''. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Carpenter, Edward', amser ymholiad: 0.00e Refine Results1
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
    Fonds Suzan Daniel (FSD)
    Yn ôl Carpenter, Edward, Greig, Noël
    Date 1984
  5. 5
    Fonds Suzan Daniel (FSD)
    Titel op de cover: Ioläus : an anthology of friendship
    Yn ôl Carpenter, Edward
    Date 1929