James Connolly

Gwyddel | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }}

Roedd James Connolly (Gwyddeleg: Séamas Ó Conghaile; 5 Mehefin 186812 Mai 1916) yn arweinydd llafur o Iwerddon. Ganed ef yn ardal Cowgate, Caeredin, Yr Alban, i deulu tlawd oedd wedi mewnfudo o Iwerddon. Gadawodd yr ysgol yn 11 oed, ond er hynny addysgodd ei hun nes dod yn un o feddylwyr amlycaf yr adain chwith yn ei ddydd.

Yn 1882, yn 14 oed, ymunodd a'r Fyddin Brydeinig, a bu yn y fyddin am 7 mlynedd, yn gwasanaethu yn Iwerddon. Tra'r oedd yno cyfarfu a Lillie Reynolds a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach. Gadawodd y ffordd y gwelodd y fyddin yn trin pobl gyffredin Iwerddon Connolly gyda chasineb at y fyddin weddill ei oes.

Bu'n gweithio fel llafurwr yng Nghaeredin a daeth yn weithgar gydag undebau llafur a chyda Phlaid Lafur Annibynnol Keir Hardie. Erbyn 1896 roedd yn Nulyn yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Dulyn; ffurfiodd Connolly y Blaid Weriniaethol Sosialaidd Wyddelig (''Irish Socialist Republican Party'' neu ISRP). Bu yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, lle bu'n weithgar gydag undebau llafur. Dychwelodd i Iwerddon, ac yn 1913 ffurfiodd yr ''Irish Citizen Army'' (ICA), byddin lafur arfog. Pwrpas y fyddin ar y cychwyn oedd amddiffyn gweithwyr a streicwyr, ond yn fuan daeth i anelu at greu gweriniaeth sosialaidd rydd yn Iwerddon.

Daeth Connolly i gytundeb ag arweinwyr ''Brawdoliaeth Weriniaethol Iwerddon'' oedd hefyd yn ystyried gwrthryfel arfog, a chyfarfu Connolly â Tom Clarke ac â Padraig Pearse. Cytunwyd i weithredu dros wythnos y Pasg, 1916.

Yn ystod Gwrthryfel y Pasg. a ddechreuodd ar 24 Ebrill, 1916, roedd Connolly yn un o'r prif arweinwyr. Clwyfwyd ef yn ddifrifol yn ei goes yn ystod yr ymladd. Wedi'r gwrthryfel dedfrydwyd ef i farwolaeth a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham, yn eistedd mewn cadair am ei fod wedi'i glwyfo'n rhy ddrwg i sefyll. Gadawodd nifer o blant, a daeth un ohonynt, Nora Connolly-O'Brien yn adnabyddus fel awdur ac ymgyrchydd gwleidyddol.

Mae cerflun o Connolly yn ninas Dulyn o flaen Liberty Hall, swyddfeydd yr undeb llafur SIPTU. Mae un o ddwy brif gorsaf reilffordd Dulyn wedi ei enwi ar ei ôl. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Connolly, James', amser ymholiad: 0.01e Refine Results1
  1. 1

    Yn ôl Connolly, James
    Date [s.a.]
  2. 2
    Deze publicatie bevat volgende liederen :
    The dying Socialist to his Son
    The Message
    Arouse!
    A Rebel Song
    Freedom's Pioneers
    The Flag
    A Festive Song
    Saoirse, a Ruin!
    The ...

    Disgrifiad llawn


    Yn ôl Connolly, James
    Date [1903]
  3. 3
    Bibliotheek François Vercammen
    Being a discussion of the Lenten Discourses against socialism delivered by Father Kane, S.J. in Gardiner Street Church, ...

    Disgrifiad llawn


    Yn ôl Connolly, James
    Date 1973
  4. 4
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Connolly, James
    Date 1973
  5. 5
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Connolly, James
    Date 1972