Friedrich Engels

Athronydd a sosialydd o'r Almaen oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 18205 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd ''Y Maniffesto Comiwnyddol'' (1848) gyda Karl Marx.

Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.

Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y ''Deutsch-Französische Jahrbücher'' dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.

Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr ''Die Lage der arbeitenden Klasse in England'' (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.

Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o ''Das Kapital'' (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 294 ar gyfer chwilio 'Engels, Friedrich', amser ymholiad: 0.01e Refine Results1
  1. 1
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Date 1971
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
    Met naam- en zaakregister
    Yn ôl Engels, Friedrich, Adoratski, V., Marx, Karl
    Date 1932
  6. 6

    Yn ôl Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Date 1910
  7. 7
    Collectie Vrijzinnige Werkmansbibliotheek
    Yn ôl Engels, Friedrich, Bottigelli, Emile
    Date 1952
  8. 8
  9. 9
  10. 10
    Bevat tevens de grondstellingen van het communisme van F. Engels
    Yn ôl Marx, Karl, Engels, Friedrich, Kautsky, Karl
    Date 1935
  11. 11

    Yn ôl Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Date 1960
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
    Collectie Vrijzinnige Werkmansbibliotheek
    Yn ôl Engels, Friedrich
    Date [1896]
  19. 19
    Fotokopieën
    Yn ôl Marx, Karl, Engels, Friedrich, Gorter, Herman
    Date [s.a.]
  20. 20

    Yn ôl Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Date 1937