John Kenneth Galbraith
Economegydd o Ganada a dreuliodd ei yrfa yn academydd a swyddog llywodraethol yn Unol Daleithiau America oedd John Kenneth Galbraith OC (15 Hydref 1908 – 29 Ebrill 2006) neu Ken Galbraith. Roedd yn awdur toreithiog, yn ddeallusyn adnabyddus ac yn rhyddfrydwr pybyr. O ran ei economeg, fe arddelai ôl-Keynesiaeth o safbwynt sefydliadol a dadleuodd o blaid mwy o wariant cyhoeddus.Ganwyd yn Iona Station, pentrefan yn Ontario, a chafodd ei fagu ar fferm. Astudiodd gyrsiau amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Ontario (Prifysgol Toronto) cyn iddo ennill ei radd meistr a'i ddoethuriaeth ar bwnc economeg amaethyddol o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Addysgodd fyfyrwyr fel tiwtor ym Mhrifysgol Harvard (1934–39) a dirprwy athro yn Princeton (1939–42). Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1937, ond cafodd ei wrthod o'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd am iddo fod yn rhy dal. Bu'n olygydd y cylchgrawn ''Fortune'' o 1943 i 1948 cyn iddo ddychwelyd i Harvard i gymryd swydd athro economeg am weddill ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi'n athro emeritws yno yn 1975.
Gwasanaethodd yng ngweinyddiaethau Democrataidd yr Arlywyddion Roosevelt, Truman, Kennedy, a Johnson. Roedd yn llysgennad UDA i India o 1961 i 1963, ac yn un o gynllunwyr rhaglen les "y Gymdeithas Fawr". Ymhlith ei lyfrau mae ''American Capitalism'' (1952), ''The Great Crash, 1929'' (1955), ''The Affluent Society'' (1958), a ''The New Industrial State'' (1967), a ''The Anatomy of Power'' (1983). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 14 canlyniadau o 14 ar gyfer chwilio 'Galbraith, John Kenneth', amser ymholiad: 0.03e
Refine Results1
Rhestr
Grid
-
1Rhif Galw: MB/0293
-
2
-
3
-
4Bibliotheek François Vercammen
Oorspronkelijke uitgave : The great crash, Boston : Houghton Mifflin, 1961
Yn ôl Galbraith, John Kenneth
Date 1961Rhif Galw: MB/5351 -
5
-
6
-
7
-
8
-
9Rhif Galw: 2012-MB/1405
-
10Rhif Galw: 2012-MB/1406
-
11
-
12Rhif Galw: 2017-MB/072
-
13Rhif Galw: FV-MB/2852
-
14Rhif Galw: FV-MB/3102