Gaucho
bawd|376x376px|Gaucho o'r [[Yr Ariannin|Ariannin. Ffotograffwyd ym Mheriw, 1868]]Yn ôl traddodiad, marchog medrus gydag enw am fod yn ddewr ac afreolus yw gaucho () neu gaúcho (). Mae'r gaucho yn symbol cenedlaethol yn yr Ariannin, Brasil ac Wrwgwái. Daeth gauchos i gael eu hedmygu yn fawr trwy chwedlau, llên gwerin a llenyddiaeth ac yn rhan bwysig o'u traddodiad diwylliannol. Dechreuodd awduron De America eu clodfori o ddiwedd y 19g, yn dilyn oes aur y gauchos.
Roedd y gaucho mewn rhai ffyrdd yn ymdebygu i ddiwylliannau gwledig, marchogol, y 19g fel cowbois Gogledd America (''vaquero'' yn Sbaeneg), y ''huaso ''yn Chile, y ''chalan'' neu'r ''morochuco'' ym Mheriw, y ''llanero'' yn Feneswela neu Colombia, y paniolo yn Hawaii, y ''charro'' Mecsicanaidd neu'r ''campino ''Portiwgeaidd.
Mae nifer o ddamcaniaeth am darddiad y gair 'gaucho'. Mae'n bosb ei fod yn tarddu o'r gair Sbaeneg ''chaucho ''sy'n tarddu yn ei dro o'r term Twrcaidd am safle milwrol Chiaus, trwy'r Arabeg Shawsh a ddaeth i'w ddefnyddio wrth gyfeirio at gard neu wyliwr. Daw'r cofnod cynharaf o'r term o gyfnod annibyniaeth yr Ariannin yn 1816. Posibilrwydd arall yw bod 'gaucho' yn tarddu o'r gair Portiwgeaidd ''gaudério ''a oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at breswylwyr rhanbarth Rio Grande do Sul a Río de la Plata yn y 18g neu'r gair ''garrucho'' sy'n cyfeirio at offeryn sy'n cael ei ddefnyddio gan gauchos i ddal gwartheg. Mae'r croniclwr o'r 18g Alonso Carrió de la Vandera yn son am "Gauderios" wrth gyfeirio at Gauchos neu "Huasos" pan yn son am ddynion nad oedd wedi gwisgo'n drwsiadus.
Tarddiad arall posibl yw iaithoedd brodorol De America, fel y gair Mapudungun ''cauchu'' ("crwydryn"), ''kauču'' ("cyfaill"), neu'r gair Quechua ''wahcha'' ("crwydryn" neu "dlotyn"). Gallai hefyd darddu o'r Arabeg ''wahcha'', sy'n golygu'r cyflwr o fod yn unig yn y diffeithwch. Darparwyd gan Wikipedia