Mikhail Gorbachev
Roedd Mikhail Sergeyevich Gorbachev (; trawslythrennu: Michail Gorbatsiof) (2 Mawrth 1931 – 30 Awst 2022) yn wleidydd o Rwsia a fu am gyfnod yn arlywydd yr Undeb Sofietaidd. Ef oedd yr wythfed Arlywydd, a'r olaf. Fe'i disgrifiwyd fel ffigwr byd pwysicaf chwarter olaf yr 20fed ganrif.Roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1985-1991) ac arlywydd olaf yr Undeb Sofietaidd, yn dal y swydd honno o 1985 hyd ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd ei ymgeisiau i adnewyddu'r wladwriaeth, sef ''perestroika'' ("ailstrwythuro") a ''glasnost'' ("bod yn agored"), yn elfennau amlwg yn y broses o ddod a'r Rhyfel Oer i ben ac i ail-greu'r Undeb Sofietaidd, gan ei throi o fod yn wlad Gomiwnyddol ac at Gyfalafiaeth. Fe dderbyniodd Fedal Heddwch Otto Hahn yn 1989, Wobr Heddwch Nobel yn 1990 a Gwobr Harvey yn 1992.
Drwy ailstrwythuro'r Undeb Sofietaidd, diddymwyd grym y Blaid Gomiwnyddol o fewn cyfansoddiad y wlad; drwy gynlluniau Gorbachev newidiwyd ei rôl o fod yn un a oedd yn tra-arglwyddiaethu ac yn rheoli'r wladwriaeth gydag awenau tynn i greisis ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, ymchwydd gref o wrth-Gomiwnyddiaeth ac yna, fel penllanw i'r cyfan, diddymiad yr Undeb Sofietaidd. Mynegodd siom iddo fethu a gwneud hyn ond cadw'r hen CCCP (neu'r 'USSR') a dywedodd mai gwelliannau a diwygiadau oedd ei bolisïau a lwyddodd yn y diwedd er i rai geisio eu tanseilio a chymryd y clod oddi wrtho. Darparwyd gan Wikipedia