Dim Canlyniadau!

Eich chwiliad - Kai-shek, Chiang - ddim yn cyfateb ag unrhyw adnoddau

Chiang Kai-shek

/ |s= / |p=Jiǎng Jièshí /
Jiǎng Zhōngzhèng|w=Chiang Chieh-Shih /
Chiang Chung-cheng|poj=Chiúⁿ Kài-se̍k /
ChiúⁿTiong-chìng}}

Gwleidydd a chadfridog o Tsieina oedd Chiang Kai-shek (trawslythrennir hefyd Chiang Chieh-shih, Jiang Jieshi (蔣介石) neu Jiang Zhongzheng (蔣中正); 31 Hydref 18875 Ebrill 1975) a fu'n bennaeth ar lywodraeth Genedlaetholgar Gweriniaeth Tsieina, yn gyntaf yn nhir mawr Tsieina o 1928 i 1949 ac yna ar ynys Taiwan o 1949 hyd at ei farwolaeth ym 1975.

Ganed ef yn nhalaith Zhejiang yng nghyfnod brenhinllin Qing. Wedi iddo gael ei hyfforddi yn yr ysgol baratoi filwrol yn Tokyo a'r academi filwrol yn Baoding, ymunodd â lluoedd y Blaid Genedlaetholgar, dan arweiniad Sun Yat-sen. Fe'i penodwyd yn gadlywydd ar y fyddin chwyldroadol yn y 1920au, ac arweiniodd Alldaith y Gogledd yn erbyn y penaethiaid rhyfel. Yn 1925 fe olynodd Sun yn bennaeth ar y Blaid Genedlaetholgar. Ym 1927 cychwynnodd ar ymgyrch i gael gwared â chomiwnyddion o'r Blaid, a sefydlodd llywodraeth Genedlaetholgar yn Nanjing.

Yn y 1930au, bu Chiang a Wang Jingwei yn cystadlu dros reolaeth y llywodraeth Genedlaetholgar. Wynebodd fygythiad y Comiwnyddion, dan arweiniad Mao Zedong, yng nghefn gwlad Tsieina, a phenderfynodd Chiang ganolbwyntio ar y frwydr honno yn hytrach na pharatoi yn erbyn ehangiaeth Ymerodraeth Japan ym Manshwria. Yn sgil goresgyniad Tsieina gan Japan ym 1937, cytunwyd ar gadoediad rhwng y Cenedlaetholwyr a'r Comiwnyddion, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd arweiniodd Chiang y frwydr Tsieineaidd—gyda chefnogaeth Unol Daleithiau America—yn erbyn y Japaneaid.

Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd, ail-gychwynnodd y rhyfel cartref ym 1945. Etholwyd Chiang yn Arlywydd Tsieina ym 1948, ond y flwyddyn wedyn bu'r lluoedd Comiwnyddol yn drech na'r Cenedlaetholwyr ac aeth Chiang a'i lywodraeth yn alltud i ynys Taiwan. Yno, sefydlodd Chiang unbennaeth wrth-gomiwnyddol yn groes i Weriniaeth Pobl Tsieina, ac hawliodd fod y Kuomintang yn llywodraeth gyfreithlon dros Tsieina oll. Cydnabuwyd Gweriniaeth Tsieina—hynny yw, Taiwan—yn swyddogol gan y nifer fwyaf o wledydd nes i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod Gweriniaeth Pobl Tsieina ym 1972. Yn ystod ei 26 mlynedd yn unben ar Daiwan, trodd Chiang yr ynys yn wlad ddatblygedig gydag economi gryf a chysylltiadau milwrol agos â'r Unol Daleithiau. Bu farw Chiang Kai-shek yn Taipei yn 87 oed, a fe'i olynwyd yn Arlywydd Taiwan gan ei fab Chiang Ching-kuo. Darparwyd gan Wikipedia