Carlos Marighella

Gwleidydd o Frasil a chwyldroadwr Marcsaidd–Leninaidd oedd Carlos Marighella (5 Rhagfyr 19114 Tachwedd 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ddamcaniaeth rhyfela herwfilwrol.

Ganed yn Salvador, Bahia, yng nghyfnod Gweriniaeth Gyntaf Brasil. Mewnfudwr o'r Eidal oedd ei dad, a disgynnodd ei fam o gaethweision Affricanaidd. Astudiodd beirianneg yng Ngholeg Polytechnig Salvador, ond ni chyflawnai ei gwrs. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Brasil ym 1927, a chafodd ei garcharu yn sgil methiant y gwrthryfel comiwnyddol yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Getúlio Vargas ym 1935. Wedi iddo gael ei ryddhau ym 1937, symudodd Marighella i São Paulo.

Cafodd Marighella ei siomi gan agweddau ceidwadol y Blaid Gomiwnyddol yn y cyfnod hwn, a rhodd anogaeth i'w gyd-gomiwnyddion ysgogi'r chwyldro drwy frwydro yn erbyn y llywodraeth ar strydoedd y dinasoedd. Etholwyd i'r Gyngres Genedlaethol yn ddirprwy dros dalaith São Paulo ym 1946, ond bu'n rhaid iddo weithredu'n gudd yn sgil gwaharddiad y Blaid Gomiwnyddol ym 1947. Ym 1960 cafodd Marighella ac arweinwyr Plaid Gomiwnyddol Brasil eu gwahodd i La Habana, yn sgil buddugoliaeth Chwyldro Ciwba. Gwrthodwyd y gwahoddiad gan y rhai eraill, gan achosi rhwyg yn y blaid.

Dadleuodd Marighella bod damcaniaeth chwyldroadol Che Guevara ar drengi gan ei fod yn rhy ddigymell, a datblygodd felly ddamcaniaeth ei hun. Sefydlodd yr Ação Libertadora Nacional (ALN) ym 1968 ac ysgrifennodd ''Minimanual do Guerrilheiro Urbano'' (1969) fel llawlyfr i chwyldroadwyr herwfilwrol. Bu farw Marighella mewn cudd-ymosodiad gan yr heddlu yn São Paulo yn 57 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Marighella, Carlos', amser ymholiad: 0.03e Refine Results1
  1. 1
  2. 2

    Yn ôl Marighella, Carlos
    Date 1971