Louise Michel
| dateformat = dmy | image = Louise Michel, grayscale.jpg | caption = Louise Michel (tua 1880). }}Anarchydd, sosialydd chwyldroadol, a llenores o Ffrainc oedd Louise Michel (29 Mai 1830 – 9 Ionawr 1905) sydd yn nodedig fel un o arweinwyr Comiwn Paris ym 1871.
Ganed hi yn Vroncourt-la-Côte, Haute-Marne, Teyrnas Ffrainc, yn ferch i Marianne Michel, morwyn ystafell i faer Vroncourt. Mae'n debyg taw Laurent Demahis, mab y maer, oedd ei thad. Derbyniodd addysg ryddfrydol gyda chymorth ariannol y maer a'i wraig, cyn iddi gael ei hyfforddi'n athrawes. Agorodd ysgol breifat ei hun yn Haute-Marne ym 1852. Symudodd i Baris ym 1855, ac yno datblygodd ei syniadau chwyldroadol: dadleuodd o blaid rhyfel dosbarth a thrais gwleidyddol, a gwrthododd y broses seneddol a sosialaeth ddiwygiadol. Agorodd ysgol arall ym Montmartre ym 1865. Michel oedd un o sefydlwyr y Gymdeithas dros Hawliau Menywod ym Mharis ym 1870. Cafodd hefyd gysylltiadau â grwpiau o ryddfeddylwyr, Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr, a dilynwyr Auguste Blanqui.
Yn ystod Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870–71), pan oedd Paris dan warchae, ymaelododd â Phwyllgorau Gwyliadwriaeth menywod a dynion y 18fed ''arrondissement''. Ymunodd ag achos y sosialwyr chwyldroadol a chroesawodd sefydlu Comiwn Paris ar 18 Mawrth 1870. Gyrrodd ambiwlansys a brwydrodd gyda'r Gwarchodlu Cenedlaethol—yn yr 61ain Fataliwn Montmartre—wrth amddiffyn y Comiwn yn erbyn lluoedd y Drydedd Weriniaeth. Yn sgil cwymp y Comiwn ar 28 Mai 1871, cafodd ei rhoi ar brawf yn y llys milwrol a'i dedfrydu i'r carchar. Fe'i halltudiwyd i ynys Caledonia Newydd, yn y Cefnfor Tawel, ac yno cefnogodd y bobl Kanak yn eu gwrthryfel yn erbyn Ymerodraeth Ffrainc ym 1878. Rhyddhawyd hi o'i chosb gan yr amnest ym 1880, a dychwelodd Michel i Ffrainc.
O ganlyniad i brofiad y Comiwn, trodd Michel at anarchiaeth yn hytrach na democratiaeth sosialaidd a'r etholfraint. Daeth i arddel strategaeth o wrthsafiad gwerin gwlad a'r streic gyffredinol er mwyn sbarduno chwyldro cymdeithasol, heb yr angen am lywodraeth. Darlithiodd ar draws y wlad, ac ystyriwyd yn arwres boblogaidd gan yr adain chwith. Parhaodd i alw am chwyldro yn erbyn y drefn oedd ohoni, a fe'i charcharwyd am dair blynedd am annog terfysg. Ymsefydlodd yn Llundain o 1886 i 1896. Cyhoeddodd ei hunangofiant, ''Mémoires'', ym 1886 a'i hanes o'r Comiwn, ''La Commune'' ym 1898, ac ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, nofelau, a straeon i blant. Dychwelodd i Ffrainc unwaith eto ym 1896 a darlithiodd ar bynciau chwyldroadol hyd at ei marwolaeth, yn 74 oed, ym Marseille. Darparwyd gan Wikipedia