Mudiad Rhyddid Palesteina

dde|bawd|117px|Baner Mudiad Rhyddid Palesteina.)

Mudiad gwleidyddol gyda senedd a threfn iddi ydy Mudiad Rhyddid Palesteinia (Arabeg: منظمة التحرير الفلسطينية‎; ''Munazzamat al-Tahrir al-Filastiniyyah'' neu ''Munazzamat al-Tahrir al-Filastiniyyah''; Saesneg: ''The Palestine Liberation Organization'' (PLO)). Yn ôl y Cynghrair Arabaidd (yn 1974), y PLO yw unig gynrychiolydd pobol Palesteina. Mudiad ymryddhad cenedlaethol seciwlar yw'r Mudiad.

Cafodd y Mudiad ei greu yn 1964 gan y Gynghrair Arabaidd gyda'r nôd o ddileu Israel drwy ddulliau milwrol gan i Israel ddwyn eu hawl dros eu tiroedd yn 1947. Ar y cychwyn rheolwyd y mudiad gan lywodraeth yr Aifft. Cyhoeddodd eu Siarter wreiddiol eu hawl i gymryd y tiroedd oddi wrth Israel. Datblygodd y Mudiad i fod yn gyfundrefn annibynnol erbyn y 1960au. Yn ddiweddar mae'r Mudiad wedi derbyn hawl Israel i gyd-fodoli â Phalisteina, ochr-yn-ochr er i arweinwyr megis Yasser Arafat a Faisal Husseini gyhoeddi mai eu nôd tymor hir ydoedd sicrhau holl diroedd Palesteina yn ôl yn nwylo'r Palesteiniaid.

Yn 1993, cadarnhaodd Jasser Arafat fodolaeth Israel mewn llythyr swyddogol at Brif Weinidog Israel. Mewn ymateb, cyhoeddodd Israel ei bod yn derbyn Mudiad Rhyddid Palestina fel cynrychiolydd cyfreithiol Palestina. Arafat yw cadeirydd y Mudiad. Ei olynydd yw Mahmoud Abbas (a elwir hefyd yn Abu Mazen).

Mae'r PLO wedi'i ddosbarthu fel sefydliad arbennig o gyfoethog, gydag asedau'n amrywio o $ 15 biliwn i $ 18 biliwn a dderbyniodd fel rhoddion gan wledydd Arabaidd eraill, ac ati.

Ar Ebrill 27, 2011, cyhoeddodd Fatah a Hamas fod eu pont wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn eu hymgais i uno’r ddau sefydliad yn un blaid wleidyddol i gystadlu yn etholiadau 2012. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'PLO', amser ymholiad: 0.01e Refine Results1
  1. 1
  2. 2
    Archief 'Belgische afdeling van de Vierde Internationale' Periodiciteit: twee maal per maand
    Date 1981-1983
    “...Palestine Liberation Unified Information (PLO)...”
  3. 3
    Affiche uitgegeven in 1993 door de Palestine Liberation Organization (PLO) voor het Palestijnse volk. Afbeelding: een VN-bijeenkomst en een geweer. ...

    Disgrifiad llawn


    Yn ôl PLO
    Date 1993-1993
  4. 4
    Affiche uitgegeven in 1982 door de Palestine Liberation Organization (PLO) voor het Palestijnse volk. Afbeelding een man met baby in ...

    Disgrifiad llawn


    Yn ôl PLO
    Date 1982-1982