Richard Pipes
Academydd ac hanesydd o'r Unol Daleithiau a anwyd yng Ngwlad Pwyl oedd Richard Edgar Pipes (11 Gorffennaf 1923 – 17 Mai 2018) a oedd yn arbenigo mewn hanes Rwsia, yn enwedig hanes yr Undeb Sofietaidd.Ganwyd Ryszard Edgar Pipes yn Cieszyn i deulu o Iddewon Pwylaidd ac Almaeneg eu hiaith. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Kraków ac yna i Warsaw. Yn sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen yn 1939, ffôdd y teulu i'r Eidal a'r Unol Daleithiau, gan ymsefydlu yn Elmira, Efrog Newydd. Cafodd Richard ei alw i'r fyddin yn 1942 gan ymuno â'r Corfflu Awyr, a fe'i anfonwyd i ddysgu Rwseg ym Mhrifysgol Cornell. Enillodd ei radd baglor o Cornell yn 1946 a'i ddoethuriaeth o Harvard yn 1950. Treuliodd ei holl yrfa academaidd yn Harvard.
Yn ystod y Rhyfel Oer, arddelai agwedd wrth-gomiwnyddol gryf gan Pipes a ddadleuodd dros bolisi tramor cadarn yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Yn 1976 bu'n pennu Tîm B, grŵp o ddadansoddwyr a drefnwyd gan y CIA i ddadansoddi galluoedd ac amcanion strategol y lluoedd milwrol a'r arweinyddiaeth wleidyddol Sofietaidd. Ymunodd â'r Committee on the Present Danger, carfan bwysog neogeidwadol, a chafodd ei benodi'n gyfarwyddwr materion Dwyrain Ewrop a'r Undeb Sofietaidd fel rhan o Gyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth Ronald Reagan. Darparwyd gan Wikipedia