Franz Schubert

Cyfansoddwr o Awstria oedd Franz Peter Schubert (31 Ionawr 179719 Tachwedd 1828).

Ganed Schubert yn Himmelpfortgrund, gerllaw Fienna, y trydydd ar ddeg o un ar bymtheg o blant. Roedd eisoes yn cael gwersi cerddoriaeth gan ei dad, Franz Theodor Schubert, pan oedd yn chwech oed. Ym mis Hydref 1808, daeth yn aelod o'r côr yn Hofkapelle Fienna. Ceir y dyddiad 8 Ebrill - 1 Mai 1810 ar un o'i gyfansoddiadau cynnar.

Bu'n athro cynorthwyol am gyfnod, ond fel arall nid oedd ganddo ffynhonnell ddibynadwy o arian. Bu yn Hwngari am gyfnod yn 1818 gweithio fel athro cerddorol i deulu Esterházy. Dim ond wedi ei farwolaeth y daeth ei gerddoriaeth yn wirioneddol boblogaidd, ond perfformiwyd dwy opera o'i waith yn 1820 a chafodd lwyddiant gyda chyhoeddi Opus 1–7 a 10–12 yn 1821/2. Erbyn hyn roedd ei iechyd yn dirywio. Bu farw ar 19 Tachwedd 1828 () wedi pythefnos o dwymyn. Claddwyd ef yn mynwent Währinger, Fienna, heb fod ymhell o fedd Ludwig van Beethoven.

Roedd e'n chwarae'r ffidil, fiola a piano. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 10 canlyniadau o 10 ar gyfer chwilio 'Schubert, Franz', amser ymholiad: 0.03e Refine Results1
  1. 1
  2. 2
    Partituur voor 1st en 2de Tenor + 1ste en 2de Bas
    Yn ôl von Salis, J.G., Schubert, Franz
  3. 3
    Partituur voor Piano, 1ste en 2de Tenor + 1ste en 2de Bas
    Yn ôl Mayrhofer, Franz, Schubert, Franz
  4. 4
    Partituur voor Piano, 1ste en 2de Tenor + 1ste en 2de Bas
    Yn ôl Bürger, G., Schubert, Franz
  5. 5
    Partituur voor 1ste en 2de Tenor + 1ste en 2de Bas
    Yn ôl von Schober, Fr., Schubert, Franz
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10