Georges Sorel

Athronydd sosialaidd o Ffrainc oedd Georges Eugène Sorel (2 Tachwedd 184730 Awst 1922) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at syndicaliaeth chwyldroadol ac am ei ddamcaniaeth o fythau a thrais yn y broses hanesyddol.

Ganed i deulu dosbarth-canol yn Cherbourg, ym Manche, Normandi, yn ystod cyfnod Brenhiniaeth y Gorffennaf yn Nheyrnas Ffrainc. Cafodd ei hyfforddi mewn peirianneg sifil, a gweithiodd yn y gwasanaeth sifil nes iddo ymddeol ym 1892 i ganolbwyntio ar ei astudiaethau a myfyrdod yn amser-llawn. Trodd at Farcsiaeth ym 1893 ac ysgrifennai draethodau dadansoddol ar bynciau cymdeithasol ac economaidd. Erbyn 1902, roedd yn chwyldroadwr ac yn lladd ar y pleidiau Sosialaidd a Radicalaidd am iddynt ddadlau dros ddemocratiaeth a chyfansoddiadaeth i greu cymdeithas sosialaidd yn hytrach na dulliau chwyldroadol. Cofleidiodd Sorel y mudiad syndicalaidd chwyldroadol a'i bwyslais ar syniadau anarchaidd a brwydr y dosbarthiadau.

Mae ei gyfrol enwocaf, ''Réflexions sur la violence'' (1908), yn gasgliad o'i erthyglau ar bwnc trais gwleidyddol a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn syndicalaidd ''Le Mouvement socialiste'' ym 1906 sydd yn datblygu ei gysyniadaeth o fythau, gan ddefnyddio esiampl y streic gyffredinol. Yn hytrach nac ystyried sosialaeth wyddonol yn drefn ffeithiol a gwrthrychol o drawsnewid y gymdeithas, mae Sorel yn amgyffred Marcsiaeth fel cyfres o fythau seciwlar sydd yn ddefnyddiol wrth ysgogi'r dosbarth gweithiol i ddilyn arweinwyr y chwyldro. Cafodd ddylanwad pwysig ar ideoleg ffasgaidd Benito Mussolini.

Tua 1909 cafodd Sorel ei ddadrithio gan y mudiad syndicalaidd, a lleisiodd ei gefnogaeth i frenhinwyr yr Action française. Yn sgil Chwyldro Rwsia ym 1917, ymgynghreiriodd Sorel â'r Bolsieficiaid. Bu farw yn Boulogne-sur-Seine yn 74 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 19 canlyniadau o 19 ar gyfer chwilio 'Sorel, Georges', amser ymholiad: 0.01e Refine Results1
  1. 1

    Yn ôl Sorel, Georges
    Date [193?]
  2. 2

    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1921
  3. 3
    Fonds Perrone
    Yn ôl Labriola, Arturo, Sorel, Georges
    Date 1909
  4. 4
  5. 5
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1921
  6. 6
  7. 7
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Berth, Edouard, Sorel, Georges
    Date 1935
  8. 8
    Collectie Vrijzinnige Werkmansbibliotheek
    Yn ôl Colajanni, N., Tacchella, M., Sorel, Georges
    Date 1900
  9. 9
    Collectie Vrijzinnige Werkmansbibliotheek
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1921
  10. 10
    Bibliotheek E. Anseele
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1901
  11. 11
    Bibnliothèque E. Anseele
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1901
  12. 12

    Yn ôl Sorel, Georges, Declerck, R.
    Date 1963
  13. 13
  14. 14

    Yn ôl Sorel, Georges
    Date [1903]
  15. 15
    Fonds Perrone
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Griffuelhes, Victor, Niel, Louis, Sorel, Georges
    Date [191?]
  16. 16
    Fonds Perrone
    Yn ôl Labriola, Arturo, Sorel, Georges
    Date 1926
  17. 17
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1919
  18. 18
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1910
  19. 19
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Sorel, Georges
    Date 1929