Josip Broz Tito
Chwyldroadwr a gwladweinydd o Iwgoslafia oedd y Marsial Josip Broz Tito (Serbo-Croateg: Јосип Броз Тито; ynganiad Serbo-Croateg: [jɔ̂sip brɔ̂ːz tîtɔ]; ganwyd Josip Broz; 7 Mai 1892 – 4 Mai 1980) a wasanaethodd mewn nifer o swyddi o 1945 hyd ei farwolaeth ym 1980. Er i rai feirniadu ei arlywyddiaeth yn gyfnod awdurdodaidd, ystyrid Tito gan y mwyafrif yn unben tadol o ganlyniad i lwyddiant ei bolisïau economaidd a diplomyddol, ac roedd yn boblogaidd yn Iwgoslafia a thramor. Ystyrid yn symbol o undod a lwyddodd i gadw cydfodolaeth heddychlon ymysg cenhedloedd Iwgoslafia. Daeth i sylw'r byd fel un o brif arweinwyr y Mudiad Amhleidiol, ynghyd â Jawaharlal Nehru a Gamal Abdel Nasser.Ganwyd Josip, seithfed blentyn i Franjo a Marija Broz, ym mhentref Kumrovec yn Awstria-Hwngari, sydd heddiw yn rhan o Groatia. Cafodd ei alw i'r fyddin a daeth yn yr Uwch Sarsiant ieuengaf ym Myddin Awstria-Hwngari. Fe'i anafwyd yn ddifrifol gan y Rwsiaid, a gipiasant i'w ddanfon i wersyll gwaith ym Mynyddoedd yr Wral. Brwydrodd yn Chwyldro Hydref ac ymunodd ag uned y Gwarchodlu Coch yn Omsk. Dychwelodd gartref i Deyrnas Iwgoslafia ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol.
Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol (ac yn hwyrach Arlywydd) Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia (1939–80), ac arweiniodd herwfilwyr y Partisaniaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1941–45). Ar ôl y rhyfel, ef oedd Prif Weinidog (1943–63) ac yna Arlywydd (1953–80) Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia (SFRY). O 1943 hyd ei farwolaeth ym 1980, daliodd rheng Marsial Iwgoslafia, sef pencadlywydd Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), lluoedd milwrol y wlad. O ganlyniad i'w boblogrwydd tramor mewn dau floc y Rhyfel Oer, derbynodd rhyw 98 o addurniadau gan wledydd eraill, gan gynnwys y ''Légion d'honneur'' ac Urdd y Baddon. Angladd Tito oedd yr angladd gwladwriaethol mwyaf erioed.
Tito oedd prif sefydlwr "yr ail Iwgoslafia", ffederasiwn sosialaidd a fodolodd o'r Ail Ryfel Byd hyd 1991. Er yr oedd yn un o sefydlwyr Cominform, ef oedd y yr aelod cyntaf o Cominform i herio hegemoni'r Undeb Sofietaidd a'r unig un a wnaeth hynny'n llwyddiannus. Cefnogodd ennill sosialaeth trwy ffyrdd annibynnol, mewn modd tebyg i sosialaeth genedlaethol, a gelwir ei ideoleg yn Titoaeth. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y Mudiad Amhleidiol, a hyrwyddodd bolisi o niwtraliaeth rhwng dau floc y Rhyfel Oer. Arweiniodd ei bolisïau economaidd a diplomyddol at ymchwydd economaidd yn Iwgoslafia yn y 1960au a'r 1970au. Llethwyd cenedlaetholdeb rhanbarthol gan ei bolisïu mewnwladol, a hybodd "brawdoliaeth ac undod" chwe chenedl Iwgoslafia. Wedi marwolaeth Tito ym 1980, datblygodd tensiynau rhwng gweriniaethau'r ffederasiwn ac ym 1991 chwalodd Iwgoslafia gan arwain at gyfres o ryfeloedd yn y 1990au. Mae Tito yn barhau yn ffigur dadleuol yn y Balcanau.
Darparwyd gan Wikipedia