Immanuel Wallerstein

Cymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd Immanuel Maurice Wallerstein (28 Medi 193031 Awst 2019) sydd yn nodedig am arloesi damcaniaeth systemau byd.

Ganed ym Manhattan a chafodd ei fagu yn y Bronx, Dinas Efrog Newydd, gan deulu Iddewig. Meddyg a rabi oedd ei dad, Lazar, ac arlunydd oedd ei fam Sara, Günsberg gynt. Derbyniodd Immanuel ei radd baglor o Brifysgol Columbia yn 1951. Wedi iddo wasanaethu yn y fyddin o 1951 i 1953, dychwelodd i Columbia ac enillodd ei radd meistr yno yn 1954 am ei draethawd estynedig ar bwnc McCarthyaeth. Teithiodd i Affrica gyda chymrodoriaeth o Sefydliad Ford yn 1955, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Columbia yn 1959.

Wedi iddo ymuno â chyfadran Prifysgol Columbia, teithiodd Wallerstein yn ôl i Affrica sawl tro i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei lyfrau ''Africa: The Politics of Independence'' (1961) ac ''Africa: The Politics of Unity'' (1967). Yn sgil protestiadau gan fyfyrwyr Columbia yn 1968, ysgrifennodd Wallerstein y llyfr ''University in Turmoil: The Politics of Change'' (1969). Yn 1974, cyhoeddodd y gyfrol gyntaf mewn cyfres ar bwnc systemau byd.

Yn 1971 symudodd Wallerstein i weithio ym Mhrifysgol McGill, Montréal, ac yn 1976 fe'i penodwyd yn athro arbennig cymdeithaseg yn Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Binghamton. Bu'n gymrawd ymchwil uwch ym Mhrifysgol Yale o 2000 hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd 500 o negeseuon blog yn rheolaidd ar ei wefan. Priododd â Beatrice Friedman yn 1964, a chawsant un ferch, Katharine. Bu farw yn ei gartref yn Branford, Connecticut, yn 88 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 16 canlyniadau o 16 ar gyfer chwilio 'Wallerstein, Immanuel', amser ymholiad: 0.01e Refine Results1
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Balibar, Etienne, Wallerstein, Immanuel
    Date 1991
  5. 5
  6. 6
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Wallerstein, Immanuel
    Date 1985
  7. 7
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Kleinknecht, Alfred, Mandel, Ernest, Wallerstein, Immanuel
    Date 1992
  8. 8
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Joxe, Alain, Balibar, Etienne, Wallerstein, Immanuel
    Date 2003
  9. 9
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Chesnais, François, Duménil, Gérard, Lévy, Dominique, Wallerstein, Immanuel
    Date 2001
  10. 10
    Bibliotheek François Vercammen
    Yn ôl Wallerstein, Immanuel
    Date 2004
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16